SSW Quick Links:
|
Cymraeg
We welcome applications from people with different backgrounds and life experiences, with an interest in helping their community. Some people may have experience of doing research, but many will not. Whatever role you take on, you will receive full training and support.
You may work with a team helping to carry out research projects. You may help put on Science Shop events and training, and you could play a part in the daily running of one of our Science Shops.
At Science Shops Wales, we want all our volunteers to benefit from working with us. You’ll receive training, the chance to gain qualifications and go on to further learning. You’ll work with a team of friendly supportive people. You’ll gain skills, knowledge and confidence that will help you in future, whatever path you choose. You’ll also be serving your community — 'giving something back.’
The first step is to fill in an application form (we can help with this). You’ll then have a short interview with a member of the Science Shops Wales team. We’ll let you know as soon as possible whether we can make use of your services at that time. If you are successful, we may ask you to complete an application for a criminal records check. We will store your details securely and in line with the Data Protection Act. Would Science Shops Wales pay my expenses? We’ll pay your travel expenses to your place of activity. If you travel by car, we’ll give you back 40p a mile.
You’ll get a full induction and training. You’ll get the chance to achieve a basic module with the University of Glamorgan. You’ll find out about the work of Science Shops. Induction will tell you about your rights and responsibilities and how to work as safely as possible. A Science Shop Development Officer will be chosen to guide you. Together, you will draw up an agreement giving your role and duties. At least once a month, you will be able to meet with your officer to talk about progress and any issues you may have.
GWEITHIO GYDA NI: Gwirfoddolwyr
Gwnewch Wahaniaeth!
Pwy all wirfoddoli gyda Siopau Gwyddoniaeth Cymru?
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau bywyd, sydd â diddordeb mewn helpu eu cymuned. Efallai y bydd gan rai pobl brofiad o wneud gwaith ymchwil, ond bydd nifer heb. Beth bynnag yw’r rôl gymrwch chi, byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth lawn.
Pa fath o dasgau fedrwn i eu cyflawni pe bawn i’n gwirfoddoli gyda Siopau Gwyddoniaeth Cymru?
Gallech weithio gyda thîm yn helpu cynnal prosiectau ymchwil. Gallech hefyd helpu cynnal digwyddiadau a hyfforddiant Siopau Gwyddoniaeth, a gallech chwarae rhan mewn rhedeg un o’r Siopau Gwyddoniaeth o ddydd i ddydd.
Sut byddwn i’n elwa?
Yn Siopau Gwyddoniaeth Cymru, rydym am i’n holl wirfoddolwyr elwa o weithio gyda ni. Fe dderbyniwch hyfforddiant, y cyfle i ennill cymwysterau ac i fynd ymlaen at ddysgu pellach. Byddwch yn gweithio gyda thîm o bobl gyfeillgar a chefnogol. Byddwch yn ennill sgiliau, gwybodaeth a hyder fydd o help ichi yn y dyfodol, pa lwybr bynnag ddewiswch chi. Byddwch hefyd yn gwasanaethu eich cymuned – yn ‘rhoi rhywbeth yn ôl.’
Beth sy’n digwydd os penderfynaf wirfoddoli?
Y cam cyntaf yw llenwi ffurflen gais (gallwn eich helpu gyda hyn). Yna fe gewch gyfweliad byr gydag aelod o dîm Siopau Gwyddoniaeth Cymru. Fe rown wybod ichi mor fuan â phosibl a fedrwn fanteisio ar eich gwasanaeth y pryd hwnnw. Os ydych yn llwyddiannus, gallem ofyn ichi lenwi cais am wiriad cofnodion troseddol. Fe gadwn eich data yn ddiogel ac yn ôl gofynion y Ddeddf Diogelu Data. A fyddai Siopau Gwyddoniaeth Cymru yn talu fy nhreuliau? Fe dalwn eich treuliau hyd at leoliad eich gweithgaredd. Os teithiwch mewn car, fe rown 40c y filltir yn ôl ichi.
Ym mha ffyrdd eraill mae Siopau Gwyddoniaeth Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr?
Fe dderbyniwch gyflwyniad llawn a hyfforddiant. Fe gewch y cyfle i gyflawni modiwl sylfaen gyda Phrifysgol Morgannwg. Fe ddewch i ddysgu am waith Siopau Gwyddoniaeth Cymru. Bydd y cyflwyniad yn dysgu ichi am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau, a sut i weithio mor ddiogel â phosibl. Caiff Swyddog Datblygu Siopau Gwyddoniaeth ei ddethol i’ch mentora. Ar y cyd, fe luniwn gytundeb yn gosod allan eich rôl a’ch dyletswyddau. O leiaf unwaith y mis, cewch gwrdd â’ch swyddog i drafod eich cynnydd ac unrhyw faterion allai fod yn eich poeni. |
Top
|

Whole-Systems
Sustainable
Development Forum at Coed
Hills
July 2007 |
|
|