Cyhoeddiadau Siopau Gwyddoniaeth Cymru - Llyfr Pili Pala
Y llawlyfr bywyd gwyllt hwn yw’r cyntaf a luniwyd yn benodol i ganolbwyntio ar y pili pala yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Yr awdur yw Ben Williams, Swyddog Prosiect Afonydd ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus. Mae wedi cyfuno ei sgiliau fel ffotograffydd bywyd gwyllt a’i wybodaeth am fioamrywiaeth leol i gynhyrchu’r llawlyfr hwn.
Byddwch yn gallu adnabod y pili pala welwch chi yn gyflym.
Ar bob tudalen ceir manylion am rywogaeth arbennig o fili pala
- lluniau lliw mawrion o wryw a benyw'r pili pala
- lliwiau’r lindys
- llysiau sy’n ffynhonnell bwyd ac ysglyfaethwyr
- ymhle a phryd i weld y pili pala
- rhywogaethau tebyg
Dysgwch ba rywogaethau sydd yn defnyddio’n rheolaidd eich gardd, coetir, glaswelltir a phorfa. Mwynhewch y llawlyfr a mwynhewch ein pili pala.
Mae’r llyfr ar gael isod i’w lwytho i lawr am ddim neu fe fedrwch gysylltu â ni er mwyn archebu copi print. (Rhoir y flaenoriaeth i archebion o ardal Rhondda Cynon Taf).
Llwytho i lawr
Noder: I lwytho i lawr y ffeiliau hyn gwnewch Glic-Dde ar y dolenni neu’r eiconau isod a dewiswch “Arbed targed fel…”
Pamffled Canllaw. Ffeil PDF: 2.6 MB
Clawr y Llyfr. Ffeil PDF: 1 MB
Llyfr Printiedig
Cysylltwch â ni i archebu eich copi print am ddim o’r llyfr.
Rhoir y flaenoriaeth i archebion o ardal Rhondda Cynon Taf.
|